Blog ar gyfer merched a bechgyn sy'n siarad Cymraeg ac yn delio â phroblemau ffrwythlondeb

Mae 'Pêrs, bananas a mefus' yn flog sy'n sôn am lot o bethau yn ymwneud ag anffrwythlondeb, gan gynnwys triniaethau, clinigau, gwybodaeth arbenigwyr a phrofiadau personol. Oes oes gennych unrhyw gwestiynau/sylwadau neu hoffech gyfrannu i'r blog, gadewch neges isod neu ysgrifennwch at mefusdefis@yahoo.co.uk
Diolch!

Thursday, July 29, 2010

Dechrau o'r dechrau

Ar hyn o bryd, gan mai bach o experiment yw'r blog yma, dwi'n mynd i ddodi gwybodaeth gwahanol am ffrwythlondeb ac anffrwythlondeb lan a gweld beth yw'r ymateb. Dwi'n gobeithio cael help gan rhai arbenigwyr (cawn weld) a gwybodaeth am llond cart o wahanol driniaethau, confensiynol, amgen, naturiol, whatever.

Oes oes gennych unrhyw wybodaeth penodol am glinigau chi 'di bod i, triniaethau chi 'di trial, gadewch sylwad a gallai edrych mewn i'r peth.

Cofion, Mefus xxx

1 comment:

  1. Sgynna i ddim gwybodaeth am glinics, sori, mond eisiau dweud y buodd fy ngwraig a minnau'n trio cael plentyn am bron i ddwy flynedd. Ni'n lwcs iawn a fe aned merch i ni mis Tachwedd, ond roedden ni wedi mynd mor bell ac ymweld â'r meddyg ac es i i roi prawf sberm yn adran ffrwythlondeb yr ysbyty. Y cam nesaf oedd i fy ngwraig fynd am brofion, ond diolch byth daeth hi'n feichiog cyn gorfod cael y profion.

    Deall nad yw hyn o unrhyw gysur, mond eisiau dweud bod llawer yn mynd drwy bethau tebyg, ond nad yw'n cael ei drafod yn agored, sy'n biti. Pob lwc i chi.

    Gyda llaw, des a'r draws y blog hwn tra'n chilio (yn ofer hyd yma) am flog Cymraeg ar yr union yr un pwnc y cofiais ei ddarllen rhai blynyddoedd yn ôl. Dw i wrthi'n casglu blogiau Cymraeg.

    ReplyDelete