Wel, os dwi'n mynd i wneud hyn, rhaid i mi rhannu'n stori, sbo.
Yn hytrach na mynd mlaen am y peth gormod (achos dyna dwi'n teimlo dwi'n neud drwy'r amser!!!), dyma syniad cloi i chi o beth sy' 'di hala fi i sgrifennu hwn.
Nes i a'm gwr ddechrau trial am blentyn yn 2008. Bach yn casual, rhyw russian roulette, ond yn gobeithio am syrpreis. Ar ôl cwpl o fisoedd dechreuais gyfri diwrnodau a wedyn dechrau cymryd fy nhymheredd ond o'dd e'n stresso fi mas, so ethon ni nôl i 'play it by ear'.
Blwyddyn yn ddiweddarach o'n i'n dechrau poeni achos do'dd dim byd wedi digwydd. Ro'n i'n nabod pobl oedd wedi cael problemau fell bant â fi i'r doc. "Ers pryd chi 'di bod yn trial go iawn?" medde hi. A fi, fel prat, yn dweud, "wel, yn iawn-iawn, tua 6 mis". "Ok," medde hi, "dere nôl mewn 6 mis."
Chwe mis yn ddiweddarach dechreuon ni'r profion a'r acupuncture. Ma' popeth ers hynny wedi troi mewn i bach o blur o rwystredigaeth, ypset a chenfigen. Do'n i methu gwynebu pobl beichiog ond yn ysu am gael bod gyda nhw hefyd er mwyn gallu trafod y peth.
Naeth y profion ddangos ein bod yn "berffaith" - dim problemau o gwbl. Grêt, yr enwog "unexplained infertility". Nethon ni fwcio mewn am IUI ac wythnos cyn dechrau'r driniaeth, nes i wneud prawf beichiogrwydd ac o'n i'n disgwyl!
7 wythnos yn ddiweddarach ro'n i di colli'r babi.
Nawr ni'n trial to a fi'n trial peidio mynd yn obses'd.
Dwi ddim yn gofyn i neb rannu eu stori os nad ydynt eisiau, ond os oes angen siarad arnoch chi, gadewch i mi wybod!
Mefus xxx
No comments:
Post a Comment