Blog ar gyfer merched a bechgyn sy'n siarad Cymraeg ac yn delio â phroblemau ffrwythlondeb

Mae 'Pêrs, bananas a mefus' yn flog sy'n sôn am lot o bethau yn ymwneud ag anffrwythlondeb, gan gynnwys triniaethau, clinigau, gwybodaeth arbenigwyr a phrofiadau personol. Oes oes gennych unrhyw gwestiynau/sylwadau neu hoffech gyfrannu i'r blog, gadewch neges isod neu ysgrifennwch at mefusdefis@yahoo.co.uk
Diolch!

Thursday, July 29, 2010

Dechrau o'r dechrau

Ar hyn o bryd, gan mai bach o experiment yw'r blog yma, dwi'n mynd i ddodi gwybodaeth gwahanol am ffrwythlondeb ac anffrwythlondeb lan a gweld beth yw'r ymateb. Dwi'n gobeithio cael help gan rhai arbenigwyr (cawn weld) a gwybodaeth am llond cart o wahanol driniaethau, confensiynol, amgen, naturiol, whatever.

Oes oes gennych unrhyw wybodaeth penodol am glinigau chi 'di bod i, triniaethau chi 'di trial, gadewch sylwad a gallai edrych mewn i'r peth.

Cofion, Mefus xxx

Thursday, July 22, 2010

Stori Mefus

Wel, os dwi'n mynd i wneud hyn, rhaid i mi rhannu'n stori, sbo.

Yn hytrach na mynd mlaen am y peth gormod (achos dyna dwi'n teimlo dwi'n neud drwy'r amser!!!), dyma syniad cloi i chi o beth sy' 'di hala fi i sgrifennu hwn.

Nes i a'm gwr ddechrau trial am blentyn yn 2008. Bach yn casual, rhyw russian roulette, ond yn gobeithio am syrpreis. Ar ôl cwpl o fisoedd dechreuais gyfri diwrnodau a wedyn dechrau cymryd fy nhymheredd ond o'dd e'n stresso fi mas, so ethon ni nôl i 'play it by ear'.

Blwyddyn yn ddiweddarach o'n i'n dechrau poeni achos do'dd dim byd wedi digwydd. Ro'n i'n nabod pobl oedd wedi cael problemau fell bant â fi i'r doc. "Ers pryd chi 'di bod yn trial go iawn?" medde hi. A fi, fel prat, yn dweud, "wel, yn iawn-iawn, tua 6 mis". "Ok," medde hi, "dere nôl mewn 6 mis."

Chwe mis yn ddiweddarach dechreuon ni'r profion a'r acupuncture. Ma' popeth ers hynny wedi troi mewn i bach o blur o rwystredigaeth, ypset a chenfigen. Do'n i methu gwynebu pobl beichiog ond yn ysu am gael bod gyda nhw hefyd er mwyn gallu trafod y peth.

Naeth y profion ddangos ein bod yn "berffaith" - dim problemau o gwbl. Grêt, yr enwog "unexplained infertility". Nethon ni fwcio mewn am IUI ac wythnos cyn dechrau'r driniaeth, nes i wneud prawf beichiogrwydd ac o'n i'n disgwyl!

7 wythnos yn ddiweddarach ro'n i di colli'r babi.

Nawr ni'n trial to a fi'n trial peidio mynd yn obses'd.

Dwi ddim yn gofyn i neb rannu eu stori os nad ydynt eisiau, ond os oes angen siarad arnoch chi, gadewch i mi wybod!

Mefus xxx

5-a-day

Siwd mae ferched a bechgyn! Dyma'r post cyntaf ar Pêrs, bananas a mefus, felly gwell i mi egluro'n hunan.

Dwi di bod yn meddwl am wneud hyn ers sbel...sef dechrau blog ar anffrwythlondeb. Dwi'n ffed yp o ddarllen babycentre a ivillage, er eu bod yn grêt. Dwi hefyd 'di cael digon o neud 'keyword searches' yn google a cherdded mewn i chatrooms a forums ble dwi jest ddim yn gallu ffeindio fy hun. Ac yn olaf, dwi di cael digon o fethu trafod y peth arlein yng Nghymraeg.

Felly, mae "Pêrs, bananas a mefus" yn flog ar gyfer merched a bechgyn sy'n siarad Cymraeg ac sy'n mynd trwy rhyw fath o broblemau ffrwythlondeb. Sdim ots os y'ch chi di bod yn trial am sbelen neu jest wedi dechrau. Sdim ots os oes gyda chi blant yn barod neu chi'n poeni am beidio byth bod yn rhieni, dyma'r lle.

Croeso!