Blog ar gyfer merched a bechgyn sy'n siarad Cymraeg ac yn delio â phroblemau ffrwythlondeb

Mae 'Pêrs, bananas a mefus' yn flog sy'n sôn am lot o bethau yn ymwneud ag anffrwythlondeb, gan gynnwys triniaethau, clinigau, gwybodaeth arbenigwyr a phrofiadau personol. Oes oes gennych unrhyw gwestiynau/sylwadau neu hoffech gyfrannu i'r blog, gadewch neges isod neu ysgrifennwch at mefusdefis@yahoo.co.uk
Diolch!

Wednesday, November 24, 2010

Sbel i ffwrdd

Whaw, mae di bod yn 3 mis ers i mi sgrifennu diwethaf.

Mae gwyliau llwyddianus iawn yn yr Eidal yn cael y bai am hyn, nid jest achos bod ni 'di cael amser grêt, ond achos nethon ni siarad am bopeth tra yna ac wedi gallu dod i benderfyniadau am y dyfodol.

Dwi hefyd yn teimlo fy mod i, o'r diwedd, wedi dod drosto colli'r babi cyntaf. Mae 'di cymryd 6 mis i deimlo'n normal eto, a do's dim ots da fi os ma hyn yn araf neu'n gyflym. Y peth pwysig yw fy mod i nôl.

Mae hefyd wedi helpu cael perspectif a phrosiect newydd, sef, a Polycystic Ovary. Ie, ar ôl yr "unexplained infertility", mae'n troi mas bod gennyf polycystic ovary. Nid y syndrome, jest yr ovary. Typical!

Felly, dwi'n cymryd tabledi ac yn aros nawr i weld os newn nhw helpu. Os na, ar ôl Nadolig, bydd rhaid mynd nôl i fy noctor (fi yw ei ffan mwyaf, seriously) ac edrych mewn i'r peth 'to.

Odyw e'n haws cael rhyw fath o ateb? Na, dim rili. Dwi'r un mor amyneddgar ag o'r blaen. Ond hefyd wedi dysgu dros y 2 fis diwethaf i ymlacio a pheidio a gweithio gymaint. Felly, i ddweud y gwir, dwi'n hapusach gyda hwnna na'r PO.

Dwi'n mynd i bostio mwy o wybodaeth fan hyn am PCOS dros y diwrnodau nesaf. OK?

No comments:

Post a Comment