Blog ar gyfer merched a bechgyn sy'n siarad Cymraeg ac yn delio â phroblemau ffrwythlondeb

Mae 'Pêrs, bananas a mefus' yn flog sy'n sôn am lot o bethau yn ymwneud ag anffrwythlondeb, gan gynnwys triniaethau, clinigau, gwybodaeth arbenigwyr a phrofiadau personol. Oes oes gennych unrhyw gwestiynau/sylwadau neu hoffech gyfrannu i'r blog, gadewch neges isod neu ysgrifennwch at mefusdefis@yahoo.co.uk
Diolch!

Monday, February 14, 2011

Polycystic Ovaries - pwr dabs â'r hen ofaris

So, naeth y doc ddweud mod gen i PCOS. Wel, falle ddim yn syndrome, jest y cysts. Soi'n gwybod. Sdim ots though, achos ma' rhywbeth yn bod, felly ar yr un llaw, da iawn, rhywbeth i ffocysio arno, ond ar y llaw arall, poen yn y pen ôl, cos dyw e ddim yn hawdd gweithio gyda PCOS.

Yn gyntaf dechreuais ar insulin tablets, Metformin, i weld os bydde nhw'n cael fi i ovulato eto. Naeth e weithio ond dim lwc.

Wedyn Clomid a Metformin am un mis, ond nes i gael cysts ar yr ovary oherwydd y Clomid yn stimiwleiddio gormod.

Beth ma' Clomid yn neud yw neud i ti gynhyrchu mwy o follicles yn y gobaith y bydd hwnna, gyda chwystrelliad o'r hormôn sy'n neud i ti ovulato yn dod â wy da mas o'r ovary i gwrdd â'r hen sberm.

Yn fy achos i, nes i greu gormod o follicles. Nethon nhw drial dod â'r ovulation mlaen pan dim ond un o'r follicles oedd yn ddigon aeddfed, ond yn y diwedd, naethon ni ddim dala a dwi di diweddu lan yn llawn cysts ar ôl y Clomid.

Felly, poen yn yr ovary dde a mis off y tablets. Byddwn yn trial meddygyniaeth newydd mis nesaf - chwystrelliadau dyddiol - eeek! - a wedyn yn gweld siwd eiff hwnna. Talk about romantic.

Wednesday, November 24, 2010

Sbel i ffwrdd

Whaw, mae di bod yn 3 mis ers i mi sgrifennu diwethaf.

Mae gwyliau llwyddianus iawn yn yr Eidal yn cael y bai am hyn, nid jest achos bod ni 'di cael amser grêt, ond achos nethon ni siarad am bopeth tra yna ac wedi gallu dod i benderfyniadau am y dyfodol.

Dwi hefyd yn teimlo fy mod i, o'r diwedd, wedi dod drosto colli'r babi cyntaf. Mae 'di cymryd 6 mis i deimlo'n normal eto, a do's dim ots da fi os ma hyn yn araf neu'n gyflym. Y peth pwysig yw fy mod i nôl.

Mae hefyd wedi helpu cael perspectif a phrosiect newydd, sef, a Polycystic Ovary. Ie, ar ôl yr "unexplained infertility", mae'n troi mas bod gennyf polycystic ovary. Nid y syndrome, jest yr ovary. Typical!

Felly, dwi'n cymryd tabledi ac yn aros nawr i weld os newn nhw helpu. Os na, ar ôl Nadolig, bydd rhaid mynd nôl i fy noctor (fi yw ei ffan mwyaf, seriously) ac edrych mewn i'r peth 'to.

Odyw e'n haws cael rhyw fath o ateb? Na, dim rili. Dwi'r un mor amyneddgar ag o'r blaen. Ond hefyd wedi dysgu dros y 2 fis diwethaf i ymlacio a pheidio a gweithio gymaint. Felly, i ddweud y gwir, dwi'n hapusach gyda hwnna na'r PO.

Dwi'n mynd i bostio mwy o wybodaeth fan hyn am PCOS dros y diwrnodau nesaf. OK?

Monday, August 16, 2010

Stress a gofid yn gallu gwneud cael babi yn fwy annodd

Stress 'can hamper chances of conceiving'

Darllenwch hwn - o'r International Federation of Gynecology and Obstetrics

Y darn gorau yw "He advised anyone trying to have a baby to relax and enjoy the experience." Rhywun wedi clywed hwnna o'r blaen?

Beth bynnag, ma' hwn yn bwynt diddorol a difrifol ac o'r diwedd mae'n edrych fel bod ymchwil difrifol wedi ei wneud yn ddiweddar ar y mater gan Brifysgol Rhydychen.

Yn ôl yr ymchwil, roedd y menywod oedd â lefelau uchel o alpha-amylase yn eu cegau (sef sylwedd sydd o bosib yn arwydd o straen emosiynol) yn fwy tebygol o gael problemau'n beichiogi.

I wybod mwy, gallwch ddarllen yr erthygl yma yn Saesneg yn yr Independent.

Thursday, July 29, 2010

Dechrau o'r dechrau

Ar hyn o bryd, gan mai bach o experiment yw'r blog yma, dwi'n mynd i ddodi gwybodaeth gwahanol am ffrwythlondeb ac anffrwythlondeb lan a gweld beth yw'r ymateb. Dwi'n gobeithio cael help gan rhai arbenigwyr (cawn weld) a gwybodaeth am llond cart o wahanol driniaethau, confensiynol, amgen, naturiol, whatever.

Oes oes gennych unrhyw wybodaeth penodol am glinigau chi 'di bod i, triniaethau chi 'di trial, gadewch sylwad a gallai edrych mewn i'r peth.

Cofion, Mefus xxx

Thursday, July 22, 2010

Stori Mefus

Wel, os dwi'n mynd i wneud hyn, rhaid i mi rhannu'n stori, sbo.

Yn hytrach na mynd mlaen am y peth gormod (achos dyna dwi'n teimlo dwi'n neud drwy'r amser!!!), dyma syniad cloi i chi o beth sy' 'di hala fi i sgrifennu hwn.

Nes i a'm gwr ddechrau trial am blentyn yn 2008. Bach yn casual, rhyw russian roulette, ond yn gobeithio am syrpreis. Ar ôl cwpl o fisoedd dechreuais gyfri diwrnodau a wedyn dechrau cymryd fy nhymheredd ond o'dd e'n stresso fi mas, so ethon ni nôl i 'play it by ear'.

Blwyddyn yn ddiweddarach o'n i'n dechrau poeni achos do'dd dim byd wedi digwydd. Ro'n i'n nabod pobl oedd wedi cael problemau fell bant â fi i'r doc. "Ers pryd chi 'di bod yn trial go iawn?" medde hi. A fi, fel prat, yn dweud, "wel, yn iawn-iawn, tua 6 mis". "Ok," medde hi, "dere nôl mewn 6 mis."

Chwe mis yn ddiweddarach dechreuon ni'r profion a'r acupuncture. Ma' popeth ers hynny wedi troi mewn i bach o blur o rwystredigaeth, ypset a chenfigen. Do'n i methu gwynebu pobl beichiog ond yn ysu am gael bod gyda nhw hefyd er mwyn gallu trafod y peth.

Naeth y profion ddangos ein bod yn "berffaith" - dim problemau o gwbl. Grêt, yr enwog "unexplained infertility". Nethon ni fwcio mewn am IUI ac wythnos cyn dechrau'r driniaeth, nes i wneud prawf beichiogrwydd ac o'n i'n disgwyl!

7 wythnos yn ddiweddarach ro'n i di colli'r babi.

Nawr ni'n trial to a fi'n trial peidio mynd yn obses'd.

Dwi ddim yn gofyn i neb rannu eu stori os nad ydynt eisiau, ond os oes angen siarad arnoch chi, gadewch i mi wybod!

Mefus xxx

5-a-day

Siwd mae ferched a bechgyn! Dyma'r post cyntaf ar Pêrs, bananas a mefus, felly gwell i mi egluro'n hunan.

Dwi di bod yn meddwl am wneud hyn ers sbel...sef dechrau blog ar anffrwythlondeb. Dwi'n ffed yp o ddarllen babycentre a ivillage, er eu bod yn grêt. Dwi hefyd 'di cael digon o neud 'keyword searches' yn google a cherdded mewn i chatrooms a forums ble dwi jest ddim yn gallu ffeindio fy hun. Ac yn olaf, dwi di cael digon o fethu trafod y peth arlein yng Nghymraeg.

Felly, mae "Pêrs, bananas a mefus" yn flog ar gyfer merched a bechgyn sy'n siarad Cymraeg ac sy'n mynd trwy rhyw fath o broblemau ffrwythlondeb. Sdim ots os y'ch chi di bod yn trial am sbelen neu jest wedi dechrau. Sdim ots os oes gyda chi blant yn barod neu chi'n poeni am beidio byth bod yn rhieni, dyma'r lle.

Croeso!